Profi samplau gwaed am Ebola
Mae tri o bobl eraill dan oruchwyliaeth mewn ysbyty ym Madrid oherwydd y posibilrwydd eu bod nhw wedi’u cael eu heintio gydag Ebola.
Mae 16 o bobl bellach yn cael eu monitro.
Mae Teresa Romero, nyrs a gafodd ei heintio gyda’r firws, yn parhau mewn cyflwr sefydlog.
Y tri sy’n cael eu goruchwylio yn Ysbyty Carlos III ym Madrid mae nyrs fu’n trin Teresa Romero, triniwr gwallt oedd wedi dod i gysylltiad â hi, a glanhawr ysbyty.
Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth heddiw nad oes yr un o’r 16 sy’n cael eu cadw dan oruchwyliaeth mewn uned ar wahân wedi dangos unrhyw symptomau.
Teresa Romero, 44 oed, yw’r person cyntaf i gael ei heintio y tu allan i orllewin Affrica, ar ôl iddi fod yn edrych ar ôl dau offeiriad o Sbaen fu farw o Ebola ym mis Awst a mis Medi.
Liberia
Yn y cyfamser mae’r Cenhedloedd Unedig yn Liberia yn dweud bod 41 o’u staff o dan oruchwyliaeth ar ôl i aelod o’r tîm meddygol gael ei heintio gydag Ebola.
Mae’r person sydd wedi cael eu heintio wedi teithio i’r Almaen ar gyfer triniaeth.