Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl digwyddiad neithiwr pan gafodd gwrthrych ei daflu at fws yng Nghaerdydd.

Cafodd un o ffenestri’r bws ei thorri a bu’n rhaid i ddynes feichiog oedd yn teithio ar y bws gael ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd fel rhagofal.

Roedd y bws yn teithio ar hyd Heol Pentwyn tua 8yh nos Wener pan gafodd y gwrthrych ei daflu at y bws gan grŵp o lanciau yn eu harddegau.

Dywedodd y Rhingyll Christopher Fennessy: “Roedd hyn yn weithred anghyfrifol iawn a allai fod wedi cael canlyniadau llawer mwy difrifol.

“Rwy’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a welodd y grŵp yma o lanciau, neu a oedd yn teithio ar y bws ar y pryd i gysylltu â’r heddlu yng Nghaerdydd ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1400380852.″