Mae newyddiadurwr yn Irac wedi cael ei ladd gan y grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Roedd Raad al-Azzawi yn ddyn camera gyda’r rhwydwaith deledu Salahuddin Television.
Yn ôl y llywodraethwr Raed Ibrahim cafodd al-Azzawi ei ladd gan y milwriaethwyr yn ninas Tikrit.
Nid oedd yn gallu datgelu rhagor o fanylion.
Mae IS wedi dienyddio nifer o newyddiadurwyr yn Syria, gan ddweud eu bod yn dial am ymosodiadau o’r awyr gan yr Unol Daleithiau yn Irac a Syria.
Roedd gohebwyr Without Borders wedi dweud fis diwethaf bod IS wedi bygwth lladd Raad al-Azzawi am iddo wrthod ag ymuno a’r grŵp eithafol.
Maen nhw’n dweud bod y tad i dri o blant wedi cael ei gipio ar 7 Medi.