Profi samplau gwaed am yr haint Ebola
Mae’r person cyntaf gafodd ei heintio gydag Ebola yn yr Unol Daleithiau wedi marw, yn ôl llefarydd ar ran ysbyty yn Tecsas.

Bu farw Thomas Eric Duncan y bore ma, wedi iddo ddal yr haint yn Liberia tua mis yn ôl.

Cyrhaeddodd yr Unol Daleithiau o Liberia ar 20 Medi a mynd yn sâl ychydig ddyddiau wedyn. Ers 28 Medi, cafodd ei gadw mewn ystafell ar wahân mewn ysbyty yn Tecsas.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gall eraill o Dallas fod mewn peryg o ddal yr haint, ac yn dweud fod 10 o bobol wedi dod i gysylltiad uniongyrchol gyda Thomas Eric Duncan.