Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae bachgen saith oed o Sir Gaerfyrddin a gafodd niwed i’w ymennydd ar ôl cael ei eni’n rhy gynnar, wedi cael iawndal o £2.2 miliwn.

Cafodd Cian Bowen ei eni 11 wythnos yn gynnar ar ôl i feddyg roi coil i’w fam tra roedd hi eisoes yn feichiog.

Roedd Cian Bowen, sy’n dioddef o barlys yr ymennydd, yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw gyda’i rieni, Stephen Bowen a Tracy Ann Hughes, i glywed y dyfarniad.

Cafodd yr achos ei ddwyn ar ôl i’r meddyg teulu Helen Claire Jenkins gyfaddef esgeulustod am roi’r ddyfais atal-genhedlu (IUD) neu’r coil, i Tracy Ann Hughes ym mis Mawrth 2007 pan oedd hi eisoes 14 wythnos yn feichiog.

Fe ddechreuodd Tracy Ann Hughes waedu, a saith wythnos yn ddiweddarach fe sylweddolodd ei bod yn feichiog. Erbyn hynny roedd yn rhy hwyr iddi gael erthyliad.

Dywedodd Martin Spencer QC ar ran y teulu bod Cian erbyn hyn yn aelod “gwerthfawr ac arbennig iawn o’r teulu.”
Wrth gyhoeddi’r iawndal, bu’r barnwr yn rhoi teyrnged i’r teulu am eu gofal cariadus o Cian.