Leighton Andrews
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £4.124 biliwn i gynghorau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf – sy’n ostyngiad o 3.4% neu £146 miliwn o’i gymharu a llynedd.

Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, y prynhawn ma.

Dywedodd Leighton Andrews fod y setliad yn mynd i fod yn “her” i gynghorau, a’i fod yn deillio o’r gostyngiad cyllidebol sy’n cael ei orfodi gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r gyllideb ar gyfer 2015-16 tua 10% yn is mewn termau real o’i gymharu â 2010-11.

Ceredigion sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn eu cyllideb, sef 4.5%, o £103,889m i £99,256m.

‘Amddiffyn yr awdurdodau lleol’

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Yn wahanol i Loegr, rydym wedi amddiffyn yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru rhag y rhan fwyaf o’r toriadau hyn dros y pum mlynedd diwethaf.

“Cafwyd gostyngiad o tua 7% mewn termau real mewn gwariant ar wasanaethau lleol yn Lloegr, ond yng Nghymru cafwyd cynnydd o 3% mewn gwariant.

“I gyfyngu’r effaith ar unrhyw gyngor unigol y flwyddyn nesaf, rwyf yn sefydlu mecanwaith ffrwyno fel na fydd unrhyw awdurdod yn destun gostyngiad o fwy na 4.5% o flwyddyn i flwyddyn.

“Rwyf yn darparu swm ychwanegol o £10 miliwn i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol i lwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a byddaf y parhau i amddiffyn cyllid ysgolion yn unol â’n hymrwymiad i ddarparu cynnydd mewn adnoddau ar lefel o 1% yn uwch na’r newid cyffredinol yng Nghyllideb Cymru.”

Toriadau Cyngor Powys yn ‘greulon’

Yn ôl AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, mae Powys yn cael bargen wael o’r gyllideb newydd. Yr awdurdod fydd yn gweld y gostyngiad mwyaf yn ei chyllideb, y tu ôl i Geredigion.

Casnewydd, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot fydd yn elwa fwyaf o’r gyllideb.

“Rwy’n cytuno gyda phenderfyniad y Llywodraeth i fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd, ond mae’r toriadau i gyngor Powys yn greulon,” meddai Glyn Davies.

“Dyma’r seithfed flwyddyn yn olynol i Bowys dderbyn un o’r toriadau mwyaf i’w cyllideb allan o bob cyngor yng Nghymru. Dyw e ddim yn deg.

“Mae’r Llywodraeth wedi ein gadael yn y gwter ac rwy’n annog cynghorwyr i ganolbwyntio ar gefnogi’r bobol fwyaf bregus, sy’n fwyaf dibynnol ar wasanaethau’r cyngor.”