Yr Wyddfa
Mae cwmni celf wedi ymddiheuro ar ôl i farddoniaeth ymddangos ar yr Wyddfa oedd yn edrych fel graffiti.
Cafodd geiriau’r bardd Gillian Clarke eu paentio ar glai ar ochr y mynydd ac fe sychodd.
Roedd y farddoniaeth yn rhan o berfformiad Yr Helfa gan National Theatre Wales, sy’n dathlu cyfraniad ffermwyr defaid i’r ardal leol.
Mae’r cwmni theatr wedi addo datrys y sefyllfa ac mae Canolfan Mynyddoedd Cenedlaethol Eryri wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio na fydd difrod parhaol i’r mynydd.
Yr Helfa
Mae’r cynhyrchiad Yr Helfa yn adrodd hanes cylch ffermio defaid, ac roedd bugeiliaid, plant, cerddorion ac actorion lleol yn rhan o’r cast.
Mae National Theatre Wales wedi dweud eu bod nhw wedi mynd ati ar unwaith i lanhau’r paent oddi ar y graig a bod eu hymdrechion yn parhau.
Dywedodd llefarydd: “Rydym yn wirioneddol flin ei bod wedi cymryd cyhyd, ond ein blaenoriaeth yw gwneud yn iawn am hyn cyn gynted â phosib”.