Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan
Mae disgwyl i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) gipio tref Kobani ar y ffin rhwng Twrci a Syria heddiw, yn ôl arlywydd Twrci Recep Tayyip Erdogan.
Mae Kobani eisoes wedi cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau trwy gyfres o gyrchoedd awyr, wrth i IS gynyddu eu hymosodiadau ar y dref yn yr wythnosau diwethaf.
Mae Erdogan wedi rhybuddio nad yw cyrchoedd awyr ar eu pen eu hunain yn ddigon i atal rhagor o ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd, ac mae e wedi galw am gydweithio pellach gyda gwrthryfelwyr Syria.
Mae Twrci wedi gwrthod ymyrryd yn filwrol yn Syria hyd yn hyn, wrth i Erdogan fynnu bod angen strategaeth gadarn yn gyntaf.
Mae oddeutu 200,000 o bobol wedi ffoi o Kobani ers canol mis diwethaf, gyda mwy na 400 o bobol wedi cael eu lladd.
Byddai cipio Kobani yn sicrhau bod gan IS rym dros ran helaeth o’r ffin rhwng Twrci a Syria.
Mae llysgennad y Cenhedloedd Unedig yn Syria, Staffan de Mistura wedi galw am ymateb brys gan y gymuned ryngwladol i’r sefyllfa yn Kobani.