Fe fydd arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru’n cwrdd heddiw i drafod eu gweledigaeth o ran sicrhau rhagor o bwerau i Gymru.

Byddan nhw’n cwrdd yn y Senedd i sicrhau bod Cymru’n cael chwarae teg yn dilyn addewid gan Lywodraeth Prydain yn sgil refferendwm yr Alban.

Er bod y pleidiau wedi bod yn cwrdd ers y refferendwm fis diwethaf, dyma’r tro cyntaf i’r arweinwyr eistedd o gwmpas y bwrdd i gynnal trafodaethau.

Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones, arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cyflwyno’u safbwyntiau er mwyn sicrhau’r cytundeb gorau posib.

Mae Kirsty Williams eisoes wedi dweud y byddai “llais cryf” yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Prydain i roi rhagor o bwerau deddfu i Gymru.