Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Fe fydd yr achos yn erbyn dyn o Brydain sydd wedi ei gyhuddo o gynllwynio i lofruddio ei wraig yn Ne Affrica yn parhau bore ma.
Mae erlynwyr yn dadlau mai’r miliwnydd Shrien Dewani o Fryste oedd y tu ôl i gynllwyn i ladd ei wraig, Anni, ar eu mis mel.
Cafodd ei wraig ei saethu wrth i’r ddau deithio mewn tacsi yn Cape Town bron i bedair blynedd yn ôl.
Roedd Dewani, 34, wedi ymddangos gerbron llys ddydd Llun ar ddiwrnod cyntaf yr achos.
Mae’n gwadu bod ag unrhyw ran yn ei llofruddiaeth.