Fe fydd awdurdodau lleol Cymru’n darganfod heddiw faint o arian y byddan nhw’n ei dderbyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Maen nhw eisoes yn gwybod fod y gyllideb wedi cael ei thorri o hyd at 4.5%, neu £154 miliwn.

Yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni, mae pryderon y gallai rhai gwasanaethau allweddol ddiflannu ledled Cymru.

Mae cyllideb pob cyngor yn dibynnu ar y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig, ac fe allai isafswm neu uchafswm toriadau gael ei osod ar bob cyngor.

Fis diwethaf, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod angen arbed £900 miliwn erbyn 2018.

Bryd hynny, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton o Sir y Fflint: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae penderfyniadau ynghylch y gyllideb gan lywodraethau’r DU a Chymru wedi arwain at wasanaethau cyhoeddus yn ysgwyddo baich y wasgfa.

“Mae’n bryd i’r gwasanaethau lleol y mae ein cymunedau’n dibynnu arnyn nhw gael eu gwneud yn gynaliadwy.”