David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, heddiw er mwyn trafod yr argyfwng Ebola yng ngorllewin Affrica.
Cyn y cyfarfod bu’r Prif Weinidog yn siarad gydag Arlywydd Sierra Leone Ernest Bai Koroma, a ddywedodd bod y sefyllfa yn ei wlad yn parhau’n “ddifrifol iawn”.
Mae David Cameron wedi rhoi sicrhad y bydd y DU yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi ymdrechion yr awdurdodau yno i fynd i’r afael a’r firws.
Mae Prydain eisoes wedi rhoi cymorth o £125 miliwn.