Brasil
Fe fydd ail-rownd yn cael ei gynnal yn etholiad arlywyddol Brasil gan nad oedd yr un ymgeisydd wedi ennill mwyafrif o’r bleidlais.

Gyda 92% o’r pleidleisiau wedi eu cyfrif mae’n ymddangos mai’r arlywydd presennol, Dilma Rousseff sydd wedi ennill 41% o’r bleidlais yn y rownd gyntaf.

Fe fydd hi’n wynebu Aecio Neves, o’r brif wrthblaid, y Democratiaid Cymdeithasol, sydd wedi ennill 34% o’r bleidlais.

Mae pleidleisio yn orfodol i bobl rhwng 18 a 70 oed ym Mrasil a bydd yr etholiad olaf yn y ras rhwng Dilma Rousseff a Aecio Neves yn digwydd ar 26 Hydref.