Wrth i’r fyddin Brydeinig baratoi i adael Afghanistan ar ddiwedd y flwyddyn, mae teuluoedd y milwyr fu farw yno wedi dweud bod y frwydr wedi bod yn ofer.
Mae’r perthnasau’n credu y bydd unrhyw welliant sydd i’w weld yn y wlad ar hyn o bryd yn diflannu ar ôl i’r fyddin Brydeinig adael, a bod hynny’n pwysleisio bod marwolaethau’r milwyr yn ddiangen.
Yn ôl tad James Philippson, un o’r milwyr cyntaf fu farw yn Afghanistan yn 2006, ni wnaeth ei fab erioed feddwl y byddai’r ymdrech i ormesu’r Taliban yn llwyddo.
“Er na fyddai fy mab wedi peidio â mynd yno, ni wnaeth o feddwl am eiliad ei bod hi’n werth mynd yno ac y byddai’r ymgyrch yn llwyddo,” meddai Tony Philippson.
“Ond fe aeth yno yn gwybod am y peryglon. Ac am gyfnod, roedden nhw’n meddwl eu bod wedi cyflawni rhywbeth, ond wnaethon nhw ddim. Fe fydd pethau’n mynd yn ôl i sut yr oedden nhw.”
Gwastraff
Ychwanegodd Joan Humphreys o Dundee, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y rhyfel ers i’w ŵyr gael ei ladd yn Afghanistan yn 2009:
“Dw i’n credu na ddylen ni fod wedi bod yno yn y lle cyntaf. Mae rhai pobol yn dweud fod Kabul wedi gwella, ond does dim byd yn wahanol yng ngweddill yr ardaloedd.
“Mae wedi bod yn wastraff llwyr o fywydau Prydeinig, Americanaidd a phobol Afghanistan.”