Mae gwrthdaro wedi bod rhwng protestwyr o blaid ac yn erbyn y llywodraeth yn Hong Kong wrth i densiynau barhau yno heno.

Ers dyddiau mae degau o filoedd o brotestwyr wedi bod ar y strydoedd yn galw ar i arweinydd Hong Kong, Leung Chun-ying, gamu o’r neilltu, ac am ddemocratiaeth yn y diriogaeth.

Heddiw fe fu gwrthdaro yn Mongkok, un o ardaloedd siopa mwyaf prysur ardal Kowloon y ddinas, wrth i ryw 1,000 o brotestwyr sydd yn cefnogi’r llywodraeth amgylchynu rhyw 100 o brotestwyr sydd wedi bod yn galw am newid.

Roedd pethau wedi tawelu yn Hong Kong heddiw ar ôl i Leung gynnig cyfarfod rhai o’r protestwyr a thrafod, gyda’r protestiadau’n cilio mewn llawer o fannau.

Mae’r protestwyr, sydd yn cynnwys myfyrwyr a grŵp Occupy Central ymysg eraill, wedi bod yn galw am etholiadau democrataidd llawn ar gyfer Hong Kong.

Maen nhw’n anhapus â’r lefel o ymyrraeth sydd yn dod o Beijing ar hyn o bryd, gyda Tsieina ar hyn o bryd yn apwyntio prif weithredwr ar gyfer y diriogaeth.

Cyhuddo Tsieina o ymyrryd

Yn ôl adroddiadau gan ohebydd o’r Guardian yn Hong Kong fe amgylchynodd y dorf pro-Beijing y rheiny oedd ar y stryd yn Mongkok, gan weiddi ar yr heddlu i’w symud oddi ymaith.

Ffurfiodd yr heddlu gylch er mwyn gwarchod y protestwyr o blaid democratiaeth, cyn i fwy ohonyn nhw ymddangos gan olygu bod mwy ohonynt na’r protestwyr pro-Beijing.

Mae rhai o’r ymgyrchwyr dros ddemocratiaeth wedi cyhuddo llywodraeth Tsieina o fod wedi trefnu’r grwpiau o brotestwyr i ymgyrchu o’u plaid nhw yn Hong Kong.

Dyma fideo o’r brotestwyr y ddwy ochr yn gwrthdaro yng nghanol Hong Kong yn gynharach:

Roedd y protestwyr dros ddemocratiaeth wedi rhoi nes hanner nos neithiwr i Leung adael ei swydd, a heddiw fe fu’r arweinydd mewn trafodaethau â grŵp oedd yn cynrychioli myfyrwyr Hong Kong.

Mae arweinwyr gwleidyddol gorllewinol eisoes wedi beirniadu rhai o dactegau’r heddlu yn Hong Kong wrth geisio delio â’r protestwyr, ac annog y diriogaeth i symud tuag at fwy o ddemocratiaeth.

Ond mae Llywodraeth Tsieina wedi mynnu na ddylai gwledydd eraill ymyrryd a’i materion mewnol hi.

Cafodd Hong Kong ei dychwelyd i Tsieina yn 1997 ar ôl bod o dan reolaeth Ymerodraeth Prydain, ac er bod gan y diriogaeth hunanreolaeth mae Beijing yn parhau i ddewis ei harweinwyr gwleidyddol.