Mae hi’n Fis Hanes Pobol Dduon yng Nghymru yr Hydref hwn, sy’n cael ei threfnu er mwyn cydnabod cyfraniadau Pobol Croenddu at hanes a diwylliant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn ogystal mae’r digwyddiad yn ceisio addysgu pobol, herio canfyddiadau negyddol, dathlu cyfraniadau cadarnhaol a hyrwyddo hanes pobol o dras Affricanaidd a Charibïaidd a’r cysylltiad Cymreig.

Mae’n cael ei ddathlu ledled Prydain hefyd, gyda dros 6,000 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu.

Canolfan y Gymuned Affricianaidd yng Nghymru sy’n trefnu’r diwgyddiad.

Hanes

Mae modd olrhain gwreiddiau Mis Hanes Pobl Dduon i 1926, pan sefydlodd Carter G Woodson, (Golygydd y Journal of Negro History), ddathliadau Affricanaidd Caribïaidd yn America. Mae’n parhau i gael ei ddathlu yno bob mis Chwefror.

Yng Nghymru, gellir olrhain enghreifftiau o weithgareddau yn ôl i weithgareddau wedi’i trefnu gan Betty Campbell, y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru, yn ardal Butetown yn Nghaerdydd o 1973 ymlaen.

http://www.bhmwales.org.uk/about/