Mae dyn 43 oed wedi cael ei ddarganfod yn farw mewn afon ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wed i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i’r corff yn Afon Six Bells ger Abertyleri.
Credir fod y dyn yn dod o’r ardal leol.