Abubakar Shekau
Mae’r mudiad eithafol Boko Haram wedi rhyddhau fideo sy’n honni dangos dyn yn cael ei ddienyddio.
Cyn cael ei ladd, mae’r dyn yn cyflwyno ei hun fel un o ddau beilot o Nigeria sydd wedi bod ar goll ers 11 Medi.
Mae’r fideo hefyd yn dangos rhannau o awyren gyda marciau milwrol Nigeria – sy’n arwydd fod gan yr eithafwyr rym i fedru saethu awyrennau i’r llawr.
Roedd byddin Nigeria yn honni ei bod wedi lladd arweinydd y Boko Haram, Abubakar Shekau, y llynedd ond mae’n ymddangos mai ef sydd i’w weld yn y fideo diweddar.
Mae terfysgwyr sy’n rhan o fudiad IS eisoes wedi rhyddhau fideos yn dangos llofruddiaeth y newyddiadurwr Steven Sotloff a’r Albanwr David Haines. Mae bygythiadau i ladd y gweithiwr cymorth o Fanceinion Alan Henning hefyd.