Ched Evans
Mae golwg360 yn deall nad yw rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cynnal trafodaethau â’r Gymdeithas Bêl-droed eto ynglŷn â dyfodol Ched Evans gyda’r tîm cenedlaethol.
Fe fydd yr ymosodwr yn cael ei ryddhau o’r carchar fis yma ar ôl treulio dros ddwy flynedd o’i ddedfryd pum mlynedd dan glo am dreisio dynes yn 2012.
Ond fe ddywedodd hyfforddwr Cymru Osian Roberts a Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru Trefor Lloyd Hughes nad yw Coleman ac awdurdodau’r gêm yng Nghymru wedi trafod beth i’w wneud pan fydd Ched Evans yn rhydd.
Hollti barn
Mae sôn eisoes fod ei gyn-glwb Sheffield United yng Nghynghrair Un yn ystyried ailarwyddo’r ymosodwr pan fydd yn cael ei ryddhau, ac mae swyddogion y clwb wedi bod yn mynd i’w weld yn y carchar.
Cyn iddo gael ei garcharu fe enillodd Evans, sy’n 25 oed, 13 o gapiau dros Gymru gan sgorio unwaith. Sgoriodd 35 o goliau yn ei dymor olaf gyda Sheffield United, a rhai cefnogwyr eisoes wedi dweud y bydden nhw’n ei groesawu nôl.
Ond mae eraill wedi mynegi pryder ynglŷn â chaniatáu i Evans chwarae pêl-droed proffesiynol eto, gyda dros 60,000 o bobl yn arwyddo deiseb i wrthwynebu hynny.
Petai Sheffield United ddim yn ei arwyddo mae’n bosib iawn y byddai clwb proffesiynol arall yn gwneud yn hwyr neu’n hwyrach.
A phetai’n dechrau sgorio goliau unwaith eto fe allai’r galw gynyddu ar i Coleman ei gynnwys yn y garfan genedlaethol, yn enwedig gan ei fod yn brin o ymosodwyr o safon uchel.
“Dim datblygiad”
Dywedodd Coleman fis diwethaf y byddai’n trafod â’r Gymdeithas Bêl-droed cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddyfodol rhyngwladol Ched Evans – ond dyw hynny heb ddigwydd eto yn ôl Trefor Lloyd Hughes.
“Mae hwnna’n sgwrs fysa’n rhaid i Chris gael efo’r prif weithredwr [Jonathan Ford] gyntaf, cyn y bysa fo’n dod ymlaen atom ni [ar y cyngor],” meddai Llywydd y Gymdeithas Bêl-droed.
“Tydi o heb siarad am y peth efo fi eto, beth bynnag.”
Yr un oedd y neges gan Osian Roberts, Cyfarwyddwr Technegol y Gymdeithas Bêl-droed ac aelod o staff hyfforddi Coleman.
“Na, does yna ddim datblygiad wedi bod,” cadarnhaodd Osian Roberts. “Does gen i ddim syniad pryd fydd y trafodaethau.”
Cariad Ched yn ei amddiffyn
Cafodd Ched Evans ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhyl yn 2012, ar ôl dyfarniad ei bod hi’n rhy feddw i allu rhoi caniatâd iddo gael rhyw â hi.
Ond mae Evans wastad wedi mynnu ei fod yn ddieuog, gan ddweud fod y ddynes wedi rhoi caniatâd iddo ar y pryd.
Mae wrthi yn y broses o apelio’r ddedfryd ar hyn o bryd, ac mae’i gariad Natasha Massey wedi’i gefnogi drwy gydol yr achos.
Dywedodd Massey’r wythnos hon na fyddai “adeiladwr neu weithiwr banc” oedd eisiau dychwelyd i’w waith o dan yr amgylchiadau hynny’n wynebu’r fath wrthwynebiad â Ched Evans, ac y dylai ef gael dychwelyd i chwarae pêl-droed hefyd.
Yn ôl cyn-gadeirydd Sheffield United, Jim Phipps, dyw’r clwb heb wneud penderfyniad eto ynglŷn ag a fyddan nhw’n ailarwyddo Evans, ac y byddai’n rhaid iddyn nhw ystyried yr effaith ar “frand” y clwb.