Mae golwg360 ar ddeall nad yw’r Gymraeg yn cael ei hystyried o gwbl yn y Bil Cynllunio fydd yn mynd gerbron y Cynulliad ddydd Llun.

Bu ymgyrchwyr iaith wrthi ers misoedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yr iaith yn rhan o’r drefn gynllunio, ac mae rali eisoes wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith ym Mhwllheli yfory fydd yn trafod y Bil.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, maen nhw wedi cael addewid gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant y bydden nhw’n gwneud eu gorau i gynnwys y Gymraeg yn y Bil.

Ond mae’n ymddangos nawr na fydd unrhyw sôn am yr iaith pan fydd y Bil yn cael ei gyflwyno ddydd Llun.

Gorddatblygu

Un o brif bryderon yr ymgyrchwyr iaith yw bod gorddatblygu yng Nghymru, gan gynnwys codi llawer mwy o dai nac sydd ei hangen ar y boblogaeth leol, yn peryglu dyfodol y Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe ddywedodd Carwyn Jones wrthyn nhw y byddai “pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio” yn cael ei hystyried.

Roedden nhw felly’n bryderus wrth ymateb i’r sïon heddiw, gan awgrymu eu bod yn credu mai gweision sifil oedd yn debygol o fod wedi gwrthwynebu cynnwys y Gymraeg yn y Bil.

“Byddai’n rhyfedd pe bai dim sôn am y Gymraeg yn y Bil Cynllunio gan ystyried yr addewidion gan Carwyn Jones, yn enwedig yr un clir yn ei ddogfen polisi diweddar ‘Bwrw Ymlaen’,” meddai Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Cawson ni gyfarfod buddiol gyda’r Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant i drafod y Bil drafft ac oedd e’n swnio’n ddigon cefnogol i’n gofynion. Wedi dweud hynny, roedd awgrym bod y gwasanaeth sifil yn llai bodlon â’r syniadau.

“Ond, dylai Carl Sargeant a Carwyn Jones fod wedi cael ei ffordd, wedi’r cwbl, nhw sy’n cael eu hethol nid y gwasanaeth sifil.”

“Siomedig iawn, iawn”

Yn ymateb i’r sïon nad yw’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio, dywedodd  llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, Simon Thomas, wrth golwg360: “Os yw hynny’n wir mae’n siomedig iawn, iawn.

“Rydyn ni’n gwybod o brofiad os chi dim ond yn ystyried y Gymraeg drwy’r Technical Advice Notes yma … bod Awdurdodau Lleol a’r arolygwyr, rhai ohonyn nhw, yn dueddol o anwybyddu hynny a dweud nad ydi o’n ddeddfwriaeth gynradd, mae’n ganllaw yn hytrach na gofyniad.

“Ac felly nid yw’r Gymraeg yn cael chwarae teg yn y system gynllunio.”

Gobaith o hyd

Dywedodd Toni Schiavone  o Gymdeithas yr Iaith ei fod yn obeithiol o hyd, fodd bynnag, fod Carwyn Jones yn mynd i weithredu’u gofynion.

A chafodd y farn honno ei hategu gan Heini Gruffudd o fudiad Dyfodol i’r Iaith, fydd yn cyfarfod â Carwyn Jones yr wythnos nesaf.

“Yn naturiol dy’n ni’n poeni nad yw e yn y Bil ar hyn o bryd,” meddai Heini Gruffudd.

“Ry’n ni’n derbyn bod cyfnod ymgynghori’n mynd i fod ar y Bil, ac ry’n ni’n cyfarfod â Carwyn Jones i drafod hyn ddydd Mercher.

“Byddwn ni’n cael trafodaeth ar ba ardaloedd sy’n ieithyddol sensitif, ac ry’n ni’n diffinio’r rheiny fel unrhyw ardal sydd â mwy na chyfartaledd Cymru o siaradwyr Cymraeg [Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin, a rhannau o Ogledd Penfro, Clwyd, Powys, Wrecsam ac Abertawe].”

Llywodraeth Cymru’n ymateb

Mewn ymateb uniaith Saesneg wrth golwg360 fe awgrymodd Llywodraeth Cymru’u bod yn credu mai drwy Gynlluniau Datblygu Lleol oedd y ffordd fwyaf priodol o godi pryderon yn ymwneud â’r Gymraeg.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i system gynllunio deg i bawb,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Dylai awdurdodau lleol sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn iawn pan mae Cynlluniau Datblygu Lleol [LDP] yn cael eu paratoi a’u hadolygu.

“Mae Nodyn Cyngor Technegol [TAN] 20 yn ei gwneud hi’n glir mai’r lle mwyaf priodol o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyriaethau’n ymwneud ag effaith ar y Gymraeg yw drwy’r LDP.”