Mae 80 o bobl bellach yn cael eu goruchwylio yn Tecsas am symptomau o Ebola, meddai swyddogion iechyd, ar ôl i ddyn gael diagnosis o’r afiechyd yn Dallas.
Ymhlith y rhai sy’n cael eu goruchwylio mae rhwng 12 i 18 o bobl oedd wedi dod i gysylltiad gyda’r dyn yn gyntaf, gan gynnwys tri o griw’r ambiwlans oedd wedi ei gludo i’r ysbyty, ynghyd ag eraill oedd wedi cael cysylltiad gydag ef yn ddiweddarach.
Nid oes gan unrhyw un o’r 80 symptomau ar hyn o bryd, meddai llefarydd ar ran gwasanaethau iechyd Dallas.
Roedd Thomas Eric Duncan, wedi teithio o Liberia i Dallas i ymweld â pherthnasau pan gafodd ei daro’n wael ar 24 Medi.
Roedd adran frys ysbyty yn Dallas wedi anfon Thomas Duncan yn ôl adref wythnos ddiwethaf, er iddo ddweud wrth nyrs ei fod wedi teithio o orllewin Affrica.
Mae’r ysbyty yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Mae Thomas Duncan wedi bod yn cael triniaeth mewn uned arbennig yn yr ysbyty ers dydd Sul. Mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Arian ychwanegol
Yn y cyfamser mae nifer o wledydd wedi rhoi cymorth ariannol i fynd i’r afael a’r argyfwng yng ngorllewin Affrica mewn cynhadledd ryngwladol yn Llundain.
Mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi dweud bod angen gweithredu ar frys.
Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi cymorth ariannol mae Achub y Plant sydd am gyfrannu £70 miliwn, ac mae Comic Relief wedi rhoi £1 miliwn.
Mae Cuba wedi cynnig anfon 63 o ddoctoriaid a 102 o nyrsys i Sierra Leone ac mae Awstralia wedi cyfrannu £6.2 miliwn.