Mae dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan drên rhwng Abertawe a Llanelli y bore ma.
Cafodd y ddynes ei tharo yn ardal Townhill, ac fe fu cryn oedi i deithwyr ar drenau Arriva yn ystod y prynhawn.
Cafodd y rheilffordd ei chau am gyfnod yn dilyn y digwyddiad, ac roedd bysys wedi cael eu trefnu i gludo teithwyr yn ôl ac ymlaen.
Yn ôl Arriva, gall teithwyr ddisgwyl oedi am weddill y prynhawn tra bod teithiau’n cael eu hail-sefydlu.
Mae’r heddlu’n ceisio adnabod y ddynes er mwyn rhoi gwybod i’w theulu, ac mae’r crwner wedi cael gwybod am ei marwolaeth.