Cafodd yr heddlu eu galw i ysgol Sandy Hook yn nhalaith Connecticut y bore ma yn dilyn adroddiadau bod bom ar y safle.

Archwiliodd yr heddlu’r safle ond doedd dim perygl i’r staff na’r plant.

Cafodd y plant eu cludo i ysgol gyfagos tra bo’r ymchwiliad yn cael ei gwblhau.

Bu farw 20 o blant a chwe aelod o staff pan dorrodd dyn arfog i mewn i’r ysgol ym mis Rhagfyr 2012.

Dydy’r safle gwreiddiol ddim yn bodoli bellach ac yn dilyn y trychineb, cafodd safle newydd ei agor yn yr ardal o dan yr un enw.