Fe fydd dyn yn mynd gerbron ynadon yn yr Wyddgrug ar gyhuddiad o ddau achos o ymosod yn anweddus ar fachgen.

Honnir bod Roger Owen Griffiths, 76 oed, o Wrecsam wedi cyflawni’r troseddau rhwng 1982 a 1984 pan oedd y bachgen rhwng 12 a 14 oed. Daw’r cyhuddiadau yn sgil ymchwiliad gan Operation Pallial, sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Cafodd Roger Owen Griffiths ei arestio ar 17 Mehefin a bydd yn mynd gerbron Ynadon yr Wyddgrug ar 16 Hydref.

Mae cyfanswm o 21 o bobl bellach wedi cael eu harestio a’u holi gan swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) sy’n gyfrifol am Operation Pallial.

O’r rheiny mae 13 o bobl wedi cael eu cyhuddo ac mae’r gweddill wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Hyd at 21 Awst eleni, mae 283 o bobl wedi mynd at yr heddlu i adrodd am honiadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yn y gogledd.