Glyn Davies
Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Powys i ail-gyflwyno’r ‘t’ yn “Llansantffraid”.

Cafodd y ‘t’ ei ollwng o’r enw yn 2008.

Dywed Glyn Davies mai “synnwyr cyffredin” yw newid y sillafu yn ôl i’r sillafiad gwreiddiol.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’n newyddion gwych fod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd wrth wyrdroi’r penderfyniad i ollwng y ‘t’ o Lansantffraid.

“Mae’r ‘t’ wedi cael ei ddefnyddio yn sillafiad swyddogol ‘Llansantffraid’ ers canol y 1800au.

“Ers i’r enw newid, mae nifer fawr o drigolion wedi cysylltu â fi yn cwyno amdano, ac mae bron bob person dw i wedi siarad â nhw o blaid ail-gyflwyno’r ‘t’.”

Ychwanegodd ei fod yn falch bod y Cyngor Sir wedi gwrando ar farn trigolion, gan nad oedd ymgynghoriad cyn i’r sillafiad gael ei newid.