Rhodri Glyn Thomas
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am dorri addewid ynghylch deddfu ar wahardd smacio plant.
Yn ôl AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, roedd Llywodraeth Cymru wedi addo y bydden nhw’n deddfu ar y mater yn y dyfodol, ond mae e wedi codi amheuon a fydd y fath ddeddfwriaeth yn gweld golau dydd.
Fis Chwefror eleni, ceisiodd Plaid Cymru ddiwygio’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) fel ei fod yn cynnwys gwaharddiad ar smacio.
Ond cafodd yr ymgais ei gwrthod gan Lywodraeth Cymru.
Bellach, mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi “camarwain” gweddill Aelodau’r Cynulliad.
Roedd disgwyl i rai o aelodau’r Blaid Lafur gefnogi’r diwygiad yn groes i ddymuniadau’r blaid, ond cawson nhw eu perswadio i beidio gwrthryfela.
Mewn datganiad, dywedodd Rhodri Glyn Thomas: “Ym mis Chwefror, ceisiodd ACau Plaid Cymru unwaith eto gyflwyno gwaharddiad ar smacio plant, gyda chefnogaeth dros ddeg ar hugain o fudiadau, a chyda chefnogaeth rhai Aelodau Cynulliad Llafur oedd yn barod i wrthryfela yn erbyn eu plaid er mwyn cefnogi’r gwaharddiad.
“Llwyddodd Llywodraeth Cymru i atal y gwrthryfel trwy awgrymu y byddai cyfle i gyflwyno gwaharddiad yn y dyfodol.
“Heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wrthyf nad oedd gan Lywodraeth Cymru fwriad o gyflwyno gwaharddiad o’r fath.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn amlwg wedi twyllo Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys rhai eu plaid eu hunain.
“Ymddygiad diurddas yw hyn gan Lywodraeth Cymru a bydd yn siom enfawr i’r ymgyrchwyr fu’n gweithio’n galed i greu gwell dyfodol i blant Cymru.”
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw ar y mater.