Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i’r casgliad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â chydymffurfio â’i Gynllun Iaith ei hun.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal yn dilyn cwyn gan riant bod nyrs ysgol nad oedd yn medru’r Gymraeg wedi cynnal asesiad o blentyn 5 oed uniaith Gymraeg mewn ysgol gynradd Gymraeg yng Ngheredigion.
Dywed adroddiad y Comisiynydd fod y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu’n groes i wyth cymal o’i Gynllun Iaith trwy beidio sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael.
Mae’r cymalau’n ymwneud â chyflwyno gwasanaethau, staffio a recriwtio a monitro prosesau.
Yn ei hadroddiad, mae’r Comisiynydd wedi nodi tri argymhelliad i’r Bwrdd Iechyd:
– Sicrhau bod trefniadau yn eu lle fel bod nyrs sy’n medru’r Gymraeg ar gael, a llunio gweithdrefn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael pan fo prinder staff sy’n medru’r Gymraeg
– Cynllunio ar gyfer hyfforddi, denu a recriwtio staff cymwys dwyieithog yn y gwasanaeth nyrsio i ysgolion
– Cynnal adolygiad o statws, rôl a chylch gorchwyl Grŵp Llywio a Monitro’r Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd er mwyn craffu ar waith yr adran staffio a recriwtio.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi amserlen er mwyn ufuddhau i’r argymhellion, ac fe fydd y sefyllfa’n cael ei monitro yn y cyfamser.