Protestwyr heddychlon yn Hong Kong
A hithau’n ddiwrnod cenedlaethol China, mae miloedd o bobol wedi ymuno a phrotest tros hawliau democrataidd ar strydoedd Hong Kong.
Galw am gael dewis eu hymgeiswyr eu hunain yn yr etholiad i ddewis arweinydd Hong Kong yn 2017 mae’r protestwyr, ond fe wrthododd Beijing y cynnig hwnnw’r mis diwethaf.
Yn hytrach, fe fydd yr ymgeiswyr yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr elitaidd.
Mae’r degau o filoedd o brotestwyr, sydd wedi meddiannu rhannau helaeth o’r ddinas mewn dull heddychlon ers wythnos, hefyd am weld yr arweinydd presennol Leung Chun-ying yn ymddiswyddo.
Wrth siarad mewn seremoni i nodi 65ain diwrnod cenedlaethol China heddiw, ni wnaeth Leung Chun-ying gyfeirio at y brotest.
Mae Taiwan wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn cefnogi’r protestiadau yn Hong Kong.