Mae pum person wedi cael eu harestio ar ôl i’r heddlu yng Nghasnewydd ddod o hyd i nwyddau gwerth £2,000 y credir sydd wedi cael eu dwyn, mewn adeilad yn ardal Alway.

Roedd y nwyddau yn cynnwys offer llaw, colur a thenynnau cwn.

Credir fod y nwyddau wedi cael eu dwyn gan bobol ac o siopau yng Nghasnewydd, Trefynwy ac ardaloedd eraill.

Cafodd pum person eu harestio ar amheuaeth o ddwyn ac o fod a nwyddau wedi eu dwyn yn eu meddiant, fel rhan o ymgyrch Heddlu Gwent i dargedu’r bobol sy’n cyflawni’r nifer uchaf o droseddau yn y gymuned.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd a mwy o wybodaeth am y troseddau i gysylltu â nhw ar 101.