Llys y Goron Abertawe
Mae barnwr wedi dyfarnu y bydd bachgen 15 oed, sy’n cael ei amau o dorri mewn i dŷ menyw 93 oed yn Abertawe, yn mynd o flaen rheithgor yn Llys y Goron.

Roedd Jean Thyer, 93, wedi cael strôc yn ei chartref yn ardal Cilâ, Abertawe yn dilyn y digwyddiad ar 29 Medi. Mae hi’n parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys.

Heddiw bu’r bachgen gerbron y Barnwr Richard Williams ar gyhuddiad o fwrglera o dŷ Jean Thyer a dwyn ei phwrs.

Fe blediodd y bachgen yn ddieuog mewn gwrandawiad yn Llys Ieuenctid Abertawe heddiw.

Roedd Huw Davies ar ran yr amddiffyniad wedi dadlau y dylai’r achos gael ei glywed gan ynadon, ond fe benderfynodd y barnwr y byddai pwerau’r llys yn annigonol pe byddai’n ei gael yn euog.

Cafodd y bachgen ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yr achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe ar 10 Hydref.