David Cameron
Fe fydd y trothwy sy’n mynnu bod gweithwyr yn talu 40c o dreth incwm yn codi i £50,000 pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Mewn araith heddiw, dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron ei fod yn bwriadu codi’r isafswm cyflog ar gyfer talu treth i £12,500 fel na fydd rhaid i unigolion sy’n gweithio 30 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog dalu treth.

Daeth y cyhoeddiad ar ddiwrnod olaf cynhadledd y Ceidwadwyr.

Addawodd Cameron y byddai’r Ceidwadwyr yn sicrhau bod gan Brydain y gyfradd treth gorfforaethol orau ymhlith gwledydd y G20 yn ystod y cyfnod etholiadol nesaf.

Dywed Cameron y byddai codi’r trothwy o £41,900 i £50,000 yn sicrhau bod nifer sylweddol o bobol ddosbarth canol yn cael eu tynnu allan o’r band 40c.

Byddai codi’r trothwy isafswm cyflog i £12,500, meddai, yn golygu bod miliwn yn llai o bobol yn ei dalu.

Dywedodd ei fod yn anelu at “drethi llai i bobol sy’n gweithio’n galed”.

Dywedodd mai pobol fwyaf breintiedig Prydain oedd i fod i dalu’r gyfradd 40c, ond bod llawer gormod o bobol yn ei thalu bellach.