Mae claf mewn ysbyty yn Dallas yn cael triniaeth am Ebola – yr achos cyntaf o’r afiechyd yn yr Unol Daleithiau.

Mae’n cael triniaeth mewn uned arbenigol yn yr ysbyty.

Mae’r firws wedi lladd mwy na 3,000 o bobl ar draws Gorllewin Affrica ac mae pedwar o weithwyr dyngarol o’r Unol Daleithiau sydd wedi teithio yno hefyd wedi cael eu heintio.

Roedd y person wedi datblygu symptomau o’r firws ddyddiau ar ôl teithio i Tecsas o Liberia. Mae’n debyg nad oedd ganddo symptomau pan oedd ar yr awyren, yn ôl y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon yn yr Unol Daleithiau.

Mae’n debyg bod y claf wedi dod i’r Unol Daleithiau i ymweld â theulu ac wedi bod yn yr ysbyty ers y penwythnos.

Yn ôl swyddogion nid oes unrhyw achosion eraill yn Tecsas.