Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am wneud holl gyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyhoeddus.

Daw’r alwad wrth i banel ymgynghorol sydd yn edrych ar y Gymraeg ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin gwrdd yn gyfrinachol wythnos nesaf.

Mae’r panel yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin a derbyniodd y cyngor llawn adroddiad ac argymhellion ganddynt fis Ebrill eleni.

Ond, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau y dylai cyfarfodydd ac adroddiad y panel fod yn gyhoeddus.

Dywedodd Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin: “Er mwyn i bawb weld yn union beth sydd yn digwydd a dilyn gwaith y cyngor dylai’r cyfarfodydd hyn fod yn rhai cyhoeddus, fel mae pwyllgorau eraill y cyngor, a dylai’r holl gofnodion fod ar y wefan.

“Rydyn ni wedi dweud ein bod ni am gadw llygad barcud ar waith y cyngor dros y misoedd nesaf, yn arwain at gyfarfod agored byddwn ni’n ei gynnal yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar 17 Ionawr.

“Yn y cyfarfod bydd cyfle i bawb yn Sir Gâr ddod i benderfynu a yw’r cyngor sir yn gweithredu argymhellion Gweithgor y Gymraeg, fel sydd yn eu cynllun gweithredu; ac a ydyn nhw’n cymryd y mater o ddifrif.”

Ddoe, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod y prif weithredwr, Mark James, wedi cyflwyno cais i gymryd diswyddiad gwirfoddol.