Alice Gross
Mae’r ymchwiliad i ddiflaniad y ferch 14 oed, Alice Gross, bellach yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth meddai’r heddlu.

Cafodd corff ei ddarganfod yn Afon Brent yng ngorllewin Llundain dros nos.

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan roedd “ymdrechion mawr” wedi bod i geisio cuddio’r corff.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Dywedodd pennaeth yr Heddlu Metropolitan, Graham McNulty: “Mae hyn yn ddatblygiad sylweddol ac rydym bellach yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth. Rwy’i angen cymorth y cyhoedd i ddod o hyd i bwy bynnag sy’n gyfrifol.

“Hyd yn oed os nad ydych wedi dod atom ni hyd yn hyn, nid yw’n rhy hwyr i chi ddweud wrthym beth ry’ch chi’n ei wybod.

“Mae ein meddyliau ar hyn o bryd gyda theulu Alice a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Fe ddiflannodd Alice Gross bron i bum wythnos yn ôl ar ôl gadael ei chartref yn Hanwell, gorllewin Llundain.

Cafodd ei gweld y tro diwethaf ar gamerâu CCTV yn cerdded ar hyd Camlas Grand Union sy’n agos at Afon Brent am 4.26 y pnawn ar 28 Awst.

Roedd y llofrudd, Arnis Zalkalns, sy’n dod o Latfia yn wreiddiol, wedi cael ei weld yn seiclo ar hyd yr un llwybr y tu ôl i Alice Gross ac mae’n cael ei gysylltu gyda’i diflaniad.

Cafodd ei weld y tro diwethaf yn ei gartref yn Ealing, gorllewin Llundain ar 3 Medi.

Mae’n debyg iddo ddod i’r DU yn 2007 ond mae’r awdurdodau wedi dod dan y lach am beidio â bod a chofnod o’i ddedfryd am lofruddio ei wraig yn Latfia.

Mae’r heddlu wedi bod yn gweithio gyda’r awdurdodau yn y wlad.