Wrth lansio ei hail adroddiad blynyddol, mae prif swyddog meddygol Cymru wedi amlinellu’r camau y mae angen i’r genedl eu cymryd i fynd i’r afael â phroblemau iechyd y boblogaeth.

Yn ôl adroddiad Dr Ruth Hussey, mae dros chwarter y plant sy’n bedair i bum mlwydd dros bwysau neu’n ordew, tra bo 22% o oedolion yn ordew.

Mae’r lefelau gordewdra yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig, meddai.

Gweithredu

Mae Ruth Hussey o’r farn y gallai gwahardd hysbysebion bwyd sothach ar y teledu, ac ar y rhyngrwyd, helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant.

Dywed Dr Hussey hefyd y bydd rhoi isafswm pris uned o 50c ar waith yng Nghymru yn helpu i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod pris alcohol yn ychwanegu at y broblem, wrth i alcohol ddod yn sylweddol fwy fforddiadwy yn ystod y degawdau diwethaf.

Croesawu gostyngiad mewn ysmygu

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran gostwng cyfraddau ysmygu yng Nghymru gyda chanran yr oedolion a oedd yn ysmygu yn gostwng o 23% i 21% rhwng 2012 a 2013.

Ond meddai byddai’r cyfuniad o fabwysiadu’r pedair ffordd iach o fyw yn gwella iechyd yng Nghymru yn sylweddol.

Y pedair ffordd iach o fyw yw dim ysmygu, dim yfed mwy na’r canllawiau, bwyta pump neu ragor o ddarnau o ffrwythau a llysiau bob dydd, a bod yn gorfforol egnïol bum diwrnod yr wythnos, o leiaf.

Tlodi

Dywedodd Ruth Hussey: “Fy adroddiad blynyddol i yw archwiliad blynyddol Cymru, ac mae’n rhoi darlun i ni o’n hiechyd a’r hyn y mae angen i ni ei wneud i’w wella. Does dim dianc rhag y ffaith bod gormod ohonom ddim yn gwneud digon i ofalu am ein hiechyd.

“Mae gordewdra yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni i gyd ei wynebu. Mae’n cyfrannu at lawer o afiechydon cronig, o glefyd siwgr math 2 i glefyd cardio fasgwlar. Mae’n costio £73 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae gordewdra’n effeithio hefyd ar y rhai mwyaf difreintiedig.

“Er gwaethaf arwyddion calonogol bod cyfraddau ysmygu wedi gostwng i 21%, ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig y gwelir y patrwm ysmygu ar ei gryfaf o hyd.

“Mae’n hanfodol i ni fel cymdeithas fynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd afiechyd. Mae angen i ni ganolbwyntio ar waith atal, ar ansawdd gofal iechyd ac ar ddod â’n hymdrechion i leihau afiechyd a thlodi’n nes at ei gilydd.”