Mae’r DJ Neil Fox wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dwy ddynes.
Mae’r DJ 53 oed, sy’n cael ei adnabod fel Doctor Fox, yn cael ei holi gan yr heddlu yn Llundain.
Dywedodd llefarydd ar ran Bauer Media bod Neil Fox wedi cael ei arestio gan Heddlu Westminster ac “o dan yr amgylchiadau ni fydd yn cyflwyno ei raglen frecwast ar Magic Radio yfory.”
Nid oedd y cwmni am wneud sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Nid yw’r digwyddiad yn rhan o ymchwiliad Operation Yewtree.