Rali dros annibyniaeth yng Nghatalwnia
Mae Llywodraeth ranbarthol Catalwnia wedi dweud y bydd yn parchu penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen i atal cynlluniau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Ond fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Catalwnia, Frances Homs, roi addewid y byddai’n parhau gydag ymdrechion i gynnal pleidlais a dywedodd y byddan nhw’n cyflwyno dadleuon dros gynnal refferendwm ar 9 Tachwedd a cheisio codi’r gwaharddiad.
Cytunodd y Llys Cyfansoddiadol ddoe i ystyried apêl gan Lywodraeth Sbaen, sy’n herio cyfreithlondeb y refferendwm.
Mae’r penderfyniad yn atal y bleidlais nes i’r llys gyhoeddi dyfarniad, ac fe allai hynny gymryd misoedd neu hyd yn oed blynyddoedd.
Mae cefnogwyr annibyniaeth wedi galw ar bobl i brotestio y tu allan i neuaddau tref yn erbyn y gwaharddiad.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o Gatalaniaid yn ffafrio cynnal pleidlais, ond eu bod nhw wedi cael eu rhannu ar fater annibyniaeth.
Mae’r llywodraeth yn Madrid yn dadlau y byddai’r bleidlais, a gafodd ei chymeradwyo ddydd Sadwrn gan arweinydd rhanbarthol Catalwnia, Artur Mas, yn anghyfansoddiadol.
Dadl Sbaen yw na all y Catalaniaid benderfynu eu tynged ar eu pen eu hunain, gan y byddai’n effeithio ar Sbaen gyfan.