Atomfa Wylfa, Ynys Mon
Mae atomfa Wylfa ar Ynys Môn wedi cael caniatâd i barhau i gynhyrchu trydan hyd at ddiwedd Rhagfyr 2015.

Yn wreiddiol roedd Wylfa i fod i orffen cynhyrchu trydan yn 2010 ond mae wedi cael sawl estyniad ers hynny.

Y bwriad oedd cau adweithydd rhif un, sydd wedi bod ar agor ers 1971 ac yn un o’r hynaf ym Mhrydain, ar ddiwedd mis Medi.

Ond roedd perchnogion y safle, Magnox, wedi gofyn i’r Swyddfa Rheoleiddio Ynni Niwclear am ganiatâd i ymestyn y dyddiad hwnnw tan fis Rhagfyr 2015.

Meddai Stuart Law, cyfarwyddwr Wylfa : “Rydym yn falch bod cyfnod cynhyrchu Wylfa wedi cael ei ymestyn. Bydd yn gwneud y defnydd gorau o arian i drethdalwyr y DU, a bydd hefyd yn darparu 15 mis arall o gyfleoedd a datblygiad parhaus ar gyfer staff.”

Cafodd yr atomfa ei gau am bum mis ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd gwaith cynnal a chadw a bu’n rhaid cau’r adweithydd ym mis Gorffennaf am fod stêm yn gollwng ohono.

Mae cwmni Horizon yn bwriadu adeiladu atomfa newydd ar y safle yn 2018 ac mae ymgynghoriad cyhoeddus o ddeg wythnos wedi dechrau.