Mark James
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi heddiw bod y prif weithredwr, Mark James, wedi cyflwyno cais i gymryd diswyddiad gwirfoddol.

Meddai datganiad gan y cyngor: “Mae arweinwyr grŵp Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael eu hysbysu heddiw fod cais ar gyfer diswyddo wedi ei dderbyn gan y Prif Weithredwr, Mr Mark James.

“Bydd y cais hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â’r oddeutu 360 o ddatganiadau o ddiddordeb eraill sydd wedi eu derbyn gan staff hyd yma.

“Fel yn achos bob un o’r ceisiadau eraill, bydd proses i’w ddilyn dros y tri i bedwar mis nesaf er mwyn ystyried bob cais.

“Yn ystod y cyfnod hwn, bydd busnes yn parhau fel yr arfer i Mr James ac mi fydd ef yn parhau yn ei swydd fel Prif Weithredwr.”

Ychwanegodd y cyngor y bydden nhw’n “darparu diweddariad pellach fel ag y bo’n briodol.”

Ymchwiliad

Yn gynharach eleni bu heddlu Swydd Gaerloyw yn cynnal ymchwiliad yn dilyn dau adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn dweud bod uwch-swyddogion cynghorau Sir Gâr a Sir Benfro wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon”.

Roedd Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Benfro wedi rhoi taliadau ariannol i’w prif weithredwyr a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, am resymau treth.

Fe wnaeth Mark James gytuno i gamu o’r neilltu wrth i’r heddlu ymchwilio i’r taliadau, ond penderfynwyd yn y diwedd nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi’u cyflawni.

‘Cychwyn o’r newydd’

Wrth ymateb i’r newydd heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at arweinwyr y tri grŵp gwleidyddol ar y Cyngor yn galw am “gychwyn o’r newydd”.

Yn ei neges at arweinwyr cynghorwyr Llafur, Plaid Cymru, a’r grŵp annibynnol, dywed Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gâr: “”Nid ein lle ni yw barnu unrhyw unigolion, ond credwn fod y system wedi bradychu pobl Sir Gaerfyrddin.

“Mae angen i ni gychwyn o’r newydd. Rhaid i ni beidio â chael eto gwmni drud o ymgynghorwyr i chwilio am swyddog i redeg Sir Gar fel petai’n gangen o M&S.

“Gofynnwn i gynghorwyr benodi swyddogion yn y dyfodol sy’n deall pobl y sir ac yn deyrngar iddynt, ac yn eu galluogi i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.”