Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd dros £425m ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd dros y ddwy flynedd nesaf yng nghyllideb 2015-16.

Wrth gyflwyno cyllideb ddrafft ‘Blaenoriaethau i Gymru’ heddiw, dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, y byddai’r cyllid ychwanegol yn darparu gwasanaethau iechyd “cynaliadwy o ansawdd uchel.”

Er bod cyllideb Cymru yn 2015-16 10%, neu £1.5bn, yn is mewn termau real nag yn 2010-11, meddai’r Llywodraeth ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar ei blaenoriaethau i Gymru.

Mae’r cyllid ychwanegol i’r GIG yn dod yn sgil adroddiad Nuffield, a ddaeth i’r casgliad y bydd y GIG yn parhau i fod yn fforddiadwy yng Nghymru yn y dyfodol os bydd yn parhau i ddiwygio ac ad-drefnu gwasanaethau.

Fel rhan o’r buddsoddiad, bydd awdurdodau lleol yn cael £10m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol hefyd.

Ond er bod iechyd wedi gweld cynnydd sylweddol, mae pob adran arall ar wahan i addysg a’r adran economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth, sydd hefyd yn gostwng mewn termau real, wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri o filiynau.

Bydd llywodraeth leol yn colli £193 miliwn, bydd yr adran Gymunedau a Thaclo Tlodi yn colli £3.3m, a bydd yr adran Adnoddau Naturiol yn colli £32.8m

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Llafur i basio cyllideb Llywodraeth Cymru.

‘Cyllideb i bobl Cymru’

Dywedodd Jane Hutt: “Mae hon yn gyllideb gyfrifol, flaengar a chynaliadwy sy’n cefnogi ein Blaenoriaethau i Gymru. Mae ein hegwyddorion o gyfiawnder cymdeithasol a thegwch wrth wraidd ein cynlluniau gwariant, ac mae’r ffaith ein bod yn canolbwyntio ar fesurau i atal problemau ac ymyrraeth gynnar wedi dylanwadu ar y Gyllideb gyfan.

“Yn y cyfnod anodd hwn, mae’n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gyflawni ein Blaenoriaethau i Gymru. Rydym yn benderfynol o hybu a buddsoddi mewn polisïau sy’n codi cyrhaeddiad addysgol, ac yn annog twf a swyddi.

“Cyllideb Ddrafft yw hon ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus rydym yn eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Mae’n Gyllideb i bobl Cymru sy’n elwa ar y gwasanaethau hyn yn unol â’n hegwyddorion fel Llywodraeth gyfrifol sy’n gofalu ac sy’n ymroddgar.”

Addysg

Mae gweddill cyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16 yn cynnwys gwarchod cyllid ysgolion o 1%; £12m ychwanegol i barhau â Her Ysgolion Cymru, i wella perfformiad ysgolion, y flwyddyn nesaf; a chodi’r Grant Amddifadedd Ysgolion, i’w wario ar addysg mewn ardaloedd difreintiedig, o £918 i £1,050 yn 2015-16, ac yna i £1,150 yn 2016-17.

Bydd cynllun Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc rhwng 16-17 oed hefyd yn dechrau ym mis Medi 2015.

Twf a Swyddi

Bydd y Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni cyflogaeth, gan gynnwys cyllid drwy Twf Swyddi Cymru i greu 16,000 o gyfleoedd swydd newydd erbyn mis Mawrth 2016.

Bydd hefyd yn parhau i fuddsoddi yn rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd, gyda £245m i’w wario yn 2015-16.

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fuddsoddiadau o fwy na £100m hefyd i gefnogi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru – gan gynnwys £11m i’w fuddsoddi ar unwaith ar gyfer tai – gan ehangu’r Cynllun Tir Tai Fforddiadwy.

Cefnogi Plant, Teuluoedd a Chymunedau Difreintiedig

Bydd y gyllideb yn gwarchod Cyllid Dechrau’n Deg, gan ddyblu nifer y plant sy’n elwa i 36,000.

Bydd y Llywodraeth yn cadw’r cyllid i ddarparu 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ac yn parhau i gynnig brecwast am ddim a llaeth am ddim mewn ysgolion, yn ogystal â presgripsiynau am ddim, nofio am ddim a theithio rhatach.

‘Rhy hwyr’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar AC fod y cyllid ychwanegol i’r GIG “yn rhy hwyr.”

Meddai: “Er bod unrhyw arian ychwanegol ar gyfer y GIG i’w groesawu, mae’r buddsoddiad hwn yn llai na faint mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei dorri o’r gyllideb iechyd yn y blynyddoedd diwethaf.

“Mae hefyd yn rhy ychydig, rhy hwyr ar gyfer y rhai sydd wedi gweld eu hysbytai a gwasanaethau lleol yn cau neu’n cael ei israddio yn y blynyddoedd diwethaf.”

Plaid Cymru: ‘Ergyd’

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015 yn ergyd i wasanaethau cyhoeddus.

Meddai llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Alun Ffred Jones AC, bod y penderfyniad gan Lywodraeth y DU i “grebachu gwasanaethau cyhoeddus” yn cael ei barhau gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru.

Dywedodd hefyd fod y blaid Lafur yn gwneud “gwaith budr y Torïaidd drostynt.”

Meddai Alun Ffred Jones: “Gweithred fer ei golwg yw amddiffyn y gyllideb iechyd heb amddiffyn y gwasanaethau cymdeithasol sy’n eu hategu, ac ni wnaiff torri’n ôl ar ofal cymdeithasol ddim ond rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd yn y tymor hir.

“Mae methiant y llywodraeth Lafur i reoli cyllidebau wedi golygu y bu’n byw o’r llaw i’r genau ers blynyddoedd, a pharhau â’r thema honno y mae’r gyllideb hon.”

Ychwanegodd bod Plaid Cymru wedi penderfynu tynnu’n ôl o drafodaethau ar y gyllideb oherwydd i “Lywodraeth Cymru ymrwymo’r llywodraeth hon, a llawer llywodraeth ar ei hôl, i gynllun diffygiol a drud yr M4 fydd yn costio £1 biliwn tra’r roedd dewisiadau gwell ar gael.”

Unsain: ‘Pryderon mawr’

Dywedodd Margaret Thomas, ysgrifennydd undeb UNSAIN Cymru: “Er bod rhai elfennau cadarnhaol yn y gyllideb, mae gennym bryderon mawr ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

“Mae UNSAIN yn croesawu’r cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ac ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac yn gobeithio y bydd hyn yn mynd gam o’r ffordd o ran caniatáu’r gwasanaethau hynny i weithio’n well gyda’i gilydd.

“Bydd UNSAIN yn parhau i ymladd dros degwch i weithwyr gwasanaeth cyhoeddus ac am wasanaethau gwell i gymunedau ledled Cymru.”