Protestiwr yn Hong Kong
Mae miloedd o brotestwyr wedi meddiannu strydoedd yn Hong Kong i ddangos eu gwrthwynebiad i ymyrraeth gan China i drefn etholiadau arweinydd newydd Hong Kong.
Mae’r protestwyr yn galw am gael dewis eu hymgeiswyr eu hunain i’r etholiadau sy’n digwydd yn 2017, ond fe wrthododd Beijing y cynnig hwnnw’r mis diwethaf.
Mae’r protestwyr wedi meddiannu strydoedd ar Ynys Hong Kong, gan gynnwys ardal o siopau drud ym Mae Causeway a’r harbwr yn Mong Kok, ac mae’r ffyrdd yno wedi cau.
Mae tua 20 o deithiau bws hefyd wedi eu canslo neu eu gohirio, sy’n ergyd fawr i’r ddinas am mai trafnidiaeth gyhoeddus yw’r brif ffordd o deithio yno.
“Rwy’n gobeithio na fydd y cyhoedd yn pryderu’n ormodol. Fe fydd yr heddlu’n gwneud eu gorau i gadw trefn ar bethau, gan gynnwys y traffig a diogelwch y cyhoedd,” meddai prif weithredwr Hong Kong, Leung Chun-ying.
Mae’r brotest yn cael ei gweld fel yr ymdrech fwyaf i herio penderfyniad Beijing i gyfyngu ar hawliau democrataidd y trigolion.