Andrew RT Davies
Wrth siarad cyn cyfarfod ymylol y Ceidwadwyr Cymreig yng nghynhadledd y blaid yn Birmingham heddiw, mae Andrew RT Davies AC, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, wedi dweud ei fod o blaid trethi isel.
Yn y digwyddiad, mae disgwyl i Andrew RT Davies ddweud bod economïau treth isel ar draws y byd yn fwy “cystadleuol a deniadol i fusnesau.”
Bydd hefyd yn dweud bod y pwerau trethi sy’n cael eu datganoli i’r Cynulliad yn cynnig posibiliadau a allai wneud Cymru yn wlad “fusnes-gyfeillgar” ac y byddai’r Ceidwadwyr Cymreig o blaid torri trethi i bobl Cymru.
Meddai cyn y digwyddiad y byddai’r pwerau ychwanegol hefyd yn gwneud y Blaid Lafur yng Nghymru’n atebol am yr arian maen nhw’n ei wario.
Dywedodd Andrew RT Davies: “Rwyf wedi ymrwymo i ddiddymu trethi busnes i bob busnes bach, cael gwared â’r dreth stamp ar dai hyd at £250,000 a thorri treth incwm gan ganiatáu teuluoedd i gadw mwy o’u harian eu hunain.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn blaid dreth isel.”