Christopher Parry
Mae angen gwella’r ffordd y mae Heddlu Gwent yn trin achosion o stelcian ac aflonyddu yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Daw’r adroddiad yn dilyn ymchwiliad annibynnol gan yr IPCC i’r ffordd wnaeth swyddogion wneud asesiad risg ac ymdrin â thri digwyddiad gwahanol yn y cyfnod cyn llofruddiaeth Caroline Parry yng Nghasnewydd, yn Awst 2013.
Cafodd Caroline Parry ei llofruddio gan ei chyn-ŵr, Christopher Parry, pan saethodd hi ger ei chartref ar Seabreeze Avenue, Casnewydd.
Roedd Caroline Parry wedi cysylltu â Heddlu Gwent ddwywaith yn y misoedd yn arwain at ei marwolaeth, gan ofyn am gymorth a chodi pryderon am ymddygiad Christopher Parry.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at fethiant swyddogion i gyfeirio’r pryderon at yr Adran Drwyddedu Arfau Saethu, a allai fod wedi arwain at ddiddymu trwydded drylliau Christopher Parry, cyn i’r saethu ddigwydd.
Dywedodd Comisiynydd yr IPCC Jan Williams: “Roedd hon yn llofruddiaeth ddideimlad a chreulon wnaeth chwalu teulu a ffrindiau Caroline.
“Daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod gwendidau a diffygion yn y modd wnaeth Heddlu Gwent drin yr achos hwn, ac nid dyma’r tro cyntaf i’r IPCC godi pryderon ynghylch sut mae’r heddlu yn ymateb i achosion o gam-drin domestig.
“Mae’r heddlu wedi rhoi blaenoriaeth i achosion cam-drin yn y cartref, ond rwy’n annog uwch swyddogion Heddlu Gwent i sicrhau eu bod yn cymryd pob cam angenrheidiol i wella eu perfformiad.”
Daeth ymchwiliad yr IPCC i’r casgliad fod gan un swyddog achos i’w ateb am gamymddwyn, ond bod Heddlu Gwent eisoes wedi delio â’r mater, ac roedd yna faterion perfformiad am ddau swyddog arall hefyd.
Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion yn ymwneud a pholisïau cam-drin domestig Heddlu Gwent yn ogystal â’r angen am hyfforddiant ychwanegol i ddelio ag achosion o stelcian ac aflonyddu.
Cafodd Christopher Parry ei ddedfrydu i garchar am oes ym mis Gorffennaf eleni.