Bydd mwy na 90 o flynyddoedd o hanes moduro yn dod i ben yr wythnos hon wrth i’r ddisg dreth car papur gael ei diddymu.
Cafodd y ddisg ei chyflwyno yn 1921, ond o ddydd Mercher ymlaen ni fydd angen i fodurwyr ddangos y ddisg dreth ar ffenestri eu ceir.
Ond, dyw hynny ddim yn golygu bod dim angen talu’r dreth, gan y bydd modurwyr yn cael dewis adnewyddu’r dreth ar-lein neu yn Swyddfa’r Post.
Un newid allweddol arall yw y bydd pobl sy’n prynu car newydd yn gorfod adnewyddu’r dreth ar unwaith, yn hytrach na defnyddio’r dreth sy’n weddill ar yr hen gar.
Bydd y rhai sy’n gwerthu cei r yn gallu hawlio ad-daliad gan y DVLA am y misoedd sydd yn weddill ar y dreth.
Bydd y rhai nad ydynt wedi talu eu treth yn cael eu dal ar gamerâu sy’n adnabod rhifau trwydded ceir neu gan yr heddlu.
Ond mae’r gymdeithas foduro RAC wedi mynegi ofnau am hynny, gan awgrymu y gallai nifer y gyrwyr sydd ddim yn talu’r dreth gynyddu, gan fod mor uchel â’r nifer sy’n gyrru heb yswiriant.