Llosgfynydd Ontake, Japan
Meddai’r heddlu yn Japan fod pump o gyrff eraill wedi cael eu darganfod ger copa llosgfynydd Ontake.
Mae’n golygu bod o leiaf 36 o bobl bellach wedi marw pan wnaeth y llosgfynydd ffrwydro heb rybudd toc cyn cinio ddydd Sadwrn gan anfon cymylau o ludw poeth i’r awyr, a gorchuddio’r ardal.
Daeth y newyddion diweddaraf wrth i weithwyr achub orfod gadael y mynydd gan fod y llosgfynydd yn parhau i ffrwydro nwyon gwenwynig a lludw i’r awyr.
Mae 12 o gyrff bellach wedi cael eu cludo gan hofrennydd oddi ar y llosgfynydd gan adael 24 arall ger y copa. Mae teuluoedd y rhai sydd ar goll yn aros am newydd mewn neuadd gyfagos.
Ar un adeg, fe fu tua 250 o bobol yn sownd ar lethrau’r mynydd, nifer ohonyn nhw’n aros mewn cabanau pren.
Ond roedd y rhan fwya’ o’r rheiny wedi gallu gwneud eu ffordd i lawr erbyn neithiwr.