Cocên
Roedd tad a mab o Silsden yn Swydd Efrog ymysg pedwar dyn wnaeth ymddangos gerbron llys heddiw wedi i dunnell o gocên gwerth £100 miliwn gael ei ddarganfod ar gwch oedd ar ei ffordd i Gymru.

Roedd John Powell, 70, yn un o dri dyn oedd ar fwrdd y Makayabella pan gafodd ei stopio gan lynges Iwerddon oddi ar arfordir Iwerddon yr wythnos diwethaf. Fe ymddangosodd mewn llys yn Corc y bore ma ar gyhuddiad o gynllwynio i fewnforio cocên.

Yn Lloegr, cafodd dau ddyn arall eu harestio yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA). Roedd un ohonyn nhw, Stephen Powell,47, yn fab i John Powell, ac fe ymddangosodd mewn llys yn Leeds heddiw.

Daeth y cysylltiadau teuluol i’r amlwg wrth i arbenigwyr ymchwilio ail gwch ym marina Pwllheli yng Ngwynedd oedd hefyd yn cael ei defnyddio i gludo cyffuriau.

Benjamin Mellor, 35, o Bradford a Thomas Britteon, 28, o Grimsby yw enwau’r ddau ddyn arall wnaeth ymddangos yn y llys.

Dyddiad llys

Ni chafodd ple ei gyflwyno gan y dynion heddiw.

Bydd y tri dyn sydd yn y ddalfa yn Iwerddon yn ymddangos yn yr un llys ddydd Iau nesaf. Fe fydd Stephen Powell yn mynd o flaen Llys y Goron Leeds ar 13 Hydref.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau dyn arall 43 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac yn chwilio am ddyn 29 oed o ardal Leeds y maen nhw’n credu sy’n rhan o’r smyglo.