Vaughan Gething
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd ynglŷn â sut i ymateb i gyfergyd (concussion) sy’n digwydd yn ystod chwaraeon yn yr ysgol ac yn y gymuned heddiw.
Mae’n dilyn galwadau gan arbenigwyr ar i hyfforddwyr a dyfarnwyr ar lawr gwlad wneud cyrsiau arbennig yn ymwneud â chyfergyd – wedi i fachgen 14 oed, Ben Robinson, farw o ganlyniad i gyfergyd dwbl yn ystod gêm rygbi dros ei ysgol yng Ngogledd Iwerddon.
Mewn digwyddiad yn y Senedd, bydd y Gweinidog Addysg Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething a’r Dirprwy Weinidog Chwaraeon Ken Skates yn cyflwyno taflen a fydd yn ddiweddarach yn cael ei dosbarthu i ysgolion, cyrff llywodraethu chwaraeon a’r sector iechyd yng Nghymru.
Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi ymgynghori â rhieni Ben Robinson wrth ddatblygu’r canllawiau a bydd Peter Robinson yn bresennol yn y Senedd heddiw.
‘Rhaid bod yn wyliadwrus’
“Mae marwolaeth drasig Ben Robinson yn atgoffa pob un ohonom ni pa mor bwysig yw’r mater hwn, a hoffwn dalu teyrnged i rieni Ben sydd wedi gweithio’n ddiflino i arbed teuluoedd eraill rhag dioddef trasiedi tebyg,” meddai Huw Lewis.
“Rwyf i’n annog pawb sy’n ymwneud â threfnu neu gyflwyno gweithgareddau chwaraeon, gan gynnwys staff ysgol, dyfarnwyr a hyfforddwyr, yn ogystal â rhieni a’r bobol ifanc eu hunain, i ddarllen y canllawiau pwysig hyn a’u rhannu’n eang.”
Ychwanegodd Vaughan Gething: “Rhaid i ni fod yn wyliadwrus am arwyddion o gyfergyd – mae’n fater difrifol a rhaid i ni beidio â’i anwybyddu.
“Yn anffodus mae damweiniau ac anafiadau’n digwydd. Neges hanfodol y daflen hon yw’r angen i weld y posibilrwydd y gallai anaf fod yn gysylltiedig â chyfergyd, a gweithredu ar hynny.”