Wylfa, Ynys Môn
Bydd pobol o Ynys Môn a gweddill gogledd Cymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud am yr atomfa arfaethedig Wylfa Newydd, wrth i ddeg wythnos o ymgynghori ddechrau heddiw.
Yn ôl cwmni Horizon, sydd y tu ôl i’r cynlluniau, bydd yr ymgynghoriad yn trafod ystod eang o bynciau gan gynnwys y broses adeiladu, trafnidiaeth a sut gallai’r datblygiad effeithio ar y Gymraeg ac ar economi’r rhanbarth.
Bydd pobol yn cael y cyfle i rannu eu safbwyntiau mewn arddangosfeydd cyhoeddus a digwyddiadau galw draw ar draws yr ynys a gogledd orllewin Cymru, yn ogystal â drwy dros y we.
Datblygiad
“Mae hwn yn gam mawr ymlaen i brosiect a fydd yn cyfrannu at ffyniant Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer,” meddai Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu yn Horizon.
“Nid yn unig fydd yn cynnig cyfleoedd gwaith uniongyrchol, bydd hefyd yn meithrin ac yn cefnogi cadwyn gyflenwi leol sylweddol ac yn ysbrydoli pobol ifanc y rhanbarth.
“Rydyn ni’n awyddus iawn bod pawb yn cymryd rhan yn ein hymgynghoriad ac yn rhoi eu barn i ni am ein cynigion. Rhwng rŵan a dechrau mis Rhagfyr byddwn ni ar hyd a lled yr ardal yn siarad â phobol ar draws y rhanbarth a bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddatblygu ein cynigion ymhellach.”
Swyddi
Mae Horizon yn credu y bydd tua 8,500 o weithwyr yn rhan o’r broses o adeiladu’r atomfa a hyd at 1,000 o bobol yn cael eu cyflogi mewn swyddi tymor hir wedi i’r atomfa ddechrau cynhyrchu trydan yn 2020.
Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Glyn Jones, wrth golwg360 bod gobaith y bydd 20% o’r 8,500 o weithwyr fydd yn rhan o’r broses o adeiladu’r atomfa yn dod o ogledd Cymru.