Hamid Karzai
Mae Ashraf Ghani Ahmadzai wedi tyngu llw fel arlywydd newydd Afghanistan, gan olynu Hamid Karzai.
Dyma’r tro cyntaf i rym gael ei drosglwyddo’n ddemocrataidd yn y wlad ers i’r Unol Daleithiau arwain y frwydr yn erbyn y Taliban yn 2001.
Daeth Ashraf Ghani Ahmadzai yn arweinydd newydd y wlad yn dilyn etholiadau yn Afghanistan. Yn dilyn trafodaethau hir, mae swydd newydd wedi cael ei greu fel prif weithredwr i Abdullah Abdullah fu’n herio Ashraf Ghani Ahmadzai am y rôl.
Roedd Hamid Karzai wedi bod yn arweinydd y wlad ers 2001.
Mae Ahmadzai yn wynebu cyfnod heriol gydag ymosodiadau gan y Taliban a gwrthryfelwyr yn parhau.