Ambiwlans awyr
O fis Ebrill 2015, fe fydd rhai o feddygon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ymuno a’r Ambiwlans Awyr fel rhan o ymdrech i drin cleifion sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol yn gynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd cynllun EMRTS Cymru yn gwella cyfraddau goroesi cleifion o dros 40% ac y bydd 95% bobol yn gallu cael gofal gan feddyg o fewn 30 munud.
Ni fydd meddygon newydd yn cael eu cyflogi i ddarparu’r gwasanaeth. Yn hytrach, fe fydd tua 24 o feddygon y GIG sy’n arbenigo mewn gofal brys, anethestig a gofal dwys yn ymuno a chriw’r Ambiwlans Awyr.
Y cynllun yw’r cyntaf o’i fath i gael ei weithredu ym Mhrydain a bydd yn costio £3 miliwn y flwyddyn.
Ardaloedd gwledig
Cafodd cynllun EMRTS Cymru ei ddatblygu gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf o brofiad y fyddin a sifiliaid.
Bydd yn dod â thimoedd o feddygon at glaf sydd wedi’i anafu, gan roi triniaeth iddo all arbed ei fywyd yn y fan a’r lle. Yn ogystal, bydd yn gallu trosglwyddo cleifion gan gynnwys babanod a phlant sy’n ddifrïol wael o un ysbyty i un arall.
“Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn trawsnewid ein gallu ni i ddarparu’r gofal gorau posib i’r cleifion sy’n ddifrifol wael yng Nghymru,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.
“Bydd gan gleifion sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell a gwledig yng Nghymru fynediad cyflym i sgiliau ymgynghorydd mewn meddygaeth frys neu ofal dwys, sy’n gallu darparu gofal critigol arbenigol all arbed bywyd.”
Cam ymlaen
Ychwanegodd Angela Hughes, Prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae llwyddo i gael ymgynghorwyr GIG ar ein ambiwlansys yn gam rhyfeddol ymlaen o ran darparu un o’r gwasanaethau ambiwlans awyr mwyaf blaengar yn y byd.
“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r rhai sy’n codi arian inni wedi rhoi cymorth ariannol anhygoel i uwchraddio tri hofrennydd a threialu hediadau nos, ac mae ychwanegu meddygon i holl hediadau Ambiwlans Awyr Cymru yn ddatblygiad gwych arall yn ein gwasanaeth i bobl ar draws Cymru.”
Bydd gan y gwasanaeth un ganolfan yn Abertawe ac un yn y Trallwng ac fe fydd meddygon yn darparu gwasanaethau ar y ffyrdd ac yn yr awyr 12 awr y dydd.